Nu se pretează? Nu contează! Puteți returna produsele în până la 30 de zile
Cu un voucher cadou nu veți da greș. În schimbul voucherului, destinatarul își poate alege orice din oferta noastră.
Până la 30 de zile pentru returnare
'Ynysoedd Gobaith' oedd diffiniad yr heddychwr mawr George M. Ll. Davies o'r mentrau a chymunedau iwtopaidd amrywiol y bu'n rhan ohonynt yng Nghymru'r ugeinfed ganrif. Bwriad y gyfrol hon, y gyntaf yn y Gymraeg ym maes astudiaethau iwtopaidd, yw amlygu a dadansoddi pwysigrwydd mentrau o'r fath, o'r mudiad gardd bentrefi yn y 1910au, i arbrofion cymdeithasol y Crynwyr yng nghymoedd de Cymru rhwng y rhyfeloedd byd, a chomiwnau'r hipis yn y 1970au. Canolbwyntir ar bedair brif thema - tai a chynllunio trefol; gwaith, hamdden a diweithdra; cyfiawnder troseddol a charchardai; heddwch a didreisedd - wrth ymdrin â'r mentrau hyn, er mwyn tanlinellu eu perthnasedd cyfoes fel ffynhonnell nid yn unig o obaith ond hefyd o syniadau a dulliau ymarferol i fynd i'r afael â heriau cymdeithasol ac ecolegol ein hoes.