Nu se pretează? Nu contează! Puteți returna produsele în până la 30 de zile
Cu un voucher cadou nu veți da greș. În schimbul voucherului, destinatarul își poate alege orice din oferta noastră.
Până la 30 de zile pentru returnare
Ar drothwy trichanmlwyddiant ei enedigaeth, mae'r gyfrol hon yn cyflwyno'r astudiaeth lawn gyntaf o Thomas Pennant, y naturiaethwr a'r teithiwr o Sir y Fflint, ar gyfer cynulleidfa Gymraeg ei hiaith. Er gwaethaf ei fri rhyngwladol yn ei ddydd, esgeuluswyd Pennant yn ddiweddarach gan ei gydwladwyr mewn cof niwlog fel 'teithiwr'. Cynigir yma ddarlun mwy cymhleth sy'n cydnabod ei le fel un o feddylwyr polymathig yr Oleuedigaeth, â'i ddiddordebau'n rhychwantu byd natur, celf a hynafiaethau. Edrychir ar y Cymry allweddol a ddylanwadodd ar ei waith - o Forrisiaid Môn, sylfaenwyr Cymdeithas y Cymmrodorion, hyd at John Lloyd, rheithor rhadlon Caerwys, a'r artist Moses Griffith o Ben Llŷn. Wrth bendroni sut y ciliodd Pennant o olwg ei gyd-Gymry, ystyrir argyfwng adroddiad y Llyfrau Gleision a'r wleidyddiaeth ieithyddol a ddaeth yn ei sgil, cyn ymddangosiad cyfieithiad llawn yn y Gymraeg o'r Teithiau yng Nghymru, ganrif wedi marwolaeth yr awdur.
Mae'r gwaith hwn wedi'i drwyddedu dan y Drwydded Ryngwladol Creative Commons Attribution-NonCommercial-NoDerivatives 4.0. I weld copi o'r drwydded hon, ewch i: http://creativecommons.org/licenses/bync-nd/4.0/ neu anfonwch lythyr at Creative Commons, PO Box 1866, Mountain View, CA 94042, UDA.
Bună ziua! Sunt Libroamiko, consilierul dumneavoastră de cărți.
Cu ce vă pot ajuta?