Nu se pretează? Nu contează! La noi puteți returna bunurile în 30 de zile
Cu un voucher cadou nu veți da greș. În schimbul voucherului, destinatarul își poate alege orice din oferta noastră.
30 de zile pentru retur bunuri
Dyma gyfrol gyfansawdd sy'n trafod cyfraniad Thomas Charles o'r Bala (1755-1814) i fywyd Cymru ar achlysur daucanmlwyddiant ei farw. Yn ffrwyth yr ymchwil ddiweddaraf gan ddeuddeg arbenigwr yn y maes, mae'n rhychwantu'r holl feuysydd bu Charles yn ymwneud a nhw: addysg, crefydd, llythrennedd, ysgolheictod, geiriaduraeth a diwylliant. Sonnir hefyd am waddol artistig Thomas Charles, y cysylltiad a fu rhyngddo a'r emynyddes Ann Griffiths ac a Mari Jones a gerddodd i'r Bala i gyrchu Beibl ganddo, ei berthynas a chyfoeswyr fel Thomas Jones o Ddinbych, a'i le yn natblygiadau gwleidyddol ei gyfnod. Un o benseiri'r Gymru fodern oedd Thomas Charles ac ef, yn ol Derec Llwyd Morgan, oedd 'Tad i foneddigeiddrwydd y werin Gristionogol Gymraeg'. Dyma gyfrol a fydd wrth fodd calon haneswyr diwylliant a beirniaid llen, a'r gwaith manylaf ar Thomas Charles i'w gyhoeddi ers canrif a mwy.