Nu se pretează? Nu contează! La noi puteți returna bunurile în 30 de zile
Cu un voucher cadou nu veți da greș. În schimbul voucherului, destinatarul își poate alege orice din oferta noastră.
30 de zile pentru retur bunuri
Yn ymestyn o'r Oesoedd Ia hyd y dwthwn hwn, mae'r gyfrol feistrolgar hon yn olrhain hanes gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol y rhan honno o'r byd y daethpwyd i'w hadnabod fel Cymru. Dyma'r llyfr sy'n egluro pam, er gwaethaf pawb a phopeth, 'rydym yma o hyd'. Yn yr astudiaeth ddiffiniol hon o hanes Cymru, trafodir bryn gaerau cynhanesyddol, olion Rhufeinig, gorchestion a methiannau tywysogion yr Oesoedd Canol, y Diwygiad Protestannaidd, datblygiad Anghydffurfiaeth, y Chwyldro Diwydiannol, twf yr ymdeimlad cenedlaethol, streiciau'r glowyr a'r ymgyrch i ennill ymreolaeth. Yn yr argraffiad newydd hwn, y mae'r stori yn cyrraedd y cyfnod newydd sydd wedi deillio o sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol.