Nu se pretează? Nu contează! La noi puteți returna bunurile în 30 de zile
Cu un voucher cadou nu veți da greș. În schimbul voucherului, destinatarul își poate alege orice din oferta noastră.
30 de zile pentru retur bunuri
Dyma'r astudiaeth gyntaf o hanes lliwgar a ffilmiau dadleuol y Bwrdd Ffilmiau Cymraeg (1971 - 86), a sefydlwyd yn unswydd er mwyn cynhyrchu ffilmiau Cymraeg eu hiaith megis Teisennau Mair, O'r Ddaear Hen a Madam Wen. Wrth olhrain hanes y sefydliad, dadleuir fod sefydlu'r Bwrdd yn rhan o'r frwydr dros ddiogelu a gwarchod y Gymraeg a yrrwyd gan ysfa caredigion yr iaith i sicrhau parhad iddi. Gyda ffigyrau cyfrifiadau 1961 a 1971 yn tystio i ddihoeni graddol niferoedd y siaradwyr Cymraeg, a chyda'r broses ddemocrataidd yn profi'n bur aneffeithlon, roedd sefydlu'r Bwrdd yn un ymgais arloesol ymhlith nifer i geisio diogelu ac ymrymuso'r iaith trwy ddulliau diwylliannol.