Nu se pretează? Nu contează! La noi puteți returna bunurile în 30 de zile
Cu un voucher cadou nu veți da greș. În schimbul voucherului, destinatarul își poate alege orice din oferta noastră.
30 de zile pentru retur bunuri
"Er gwaethaf y berw Ol-Fodernaidd a welwyd yn ystod yr 1990au, prin fu'r sylw a roed i theori lenyddol yng Nghymru. Prinnach fyth ydyw'r beirniaid llenyddol Cymraeg a fentrodd i fyd dieithr theori beirniadaeth lenyddol. Y mwyaf gwreiddiol a thoreithiog o'n beirniaid llenyddol yw R. M Jones, a ddisgrifiwyd yn ddiweddar fel yr unig feirniad o statws Ewropeaidd sy'n ysgrifennu yn Gymraeg. Dros y degawdau diwethaf bu'n gweithio ar fenter arloesol mewn beirniadaeth lenyddol a ddisgrifiwyd eto fel y fenter fwyaf o'i bath yn hanes beirniadaeth Gymraeg. Cyhoeddodd gyfres o gyfrolau, bob un ohonynt yn rhan o'i ymgais i ddatblygu beirniadaeth lenyddol o safbwynt theoretig penodol a'i diffinio fel genre. Cyhoeddodd weithiau a oedd yn cymhwyso theoriau ieithyddol i fyd llenyddiaeth cyn i theoriau o'r fath gael eu mabwysiadu gan feirniaid Eingl-Americanaidd adnabyddus megis Culler. Eithr ni dderbyniodd sylw haeddiannol yn rhyngwladol hyd yma; adlewyrchiad o'r anfantais o gyhoeddi mewn iaith leiafrifol efallai. Yn ei gyfrolau gwelwn drafodaeth wreiddiol ar lenyddiaeth sy'n bur wahanol i'r math o feirniadaeth a welir yn Gymraeg gan amlaf, sy'n un rheswm efallai paham na chafodd ei sylw haeddiannol mewn cylchoedd llenyddol Cymraeg ychwaith. Er aruthredd a gwreiddioldeb gyrfa lenyddol ac academaidd Bobi Jones, prin fu'r sylw a roddwyd i'w waith ar lefel Cenedlaethol na Rhyngwladol. Fe'i hesgeuluswyd gan genhedlaeth o feirniaid na allent ddirnad na chyd weld a'i safbwyntiau llenyddol. Mae'r gyfrol hon felly yn ymgais i osod y ddysgl yn wastad, gan ymdrin a'i fenter i ddiffinio natur llenyddiaeth ar ei hyd am y tro cyntaf erioed. "